|
Yn
Pwllheli ewch ar y ffordd i Abersoch. Yn Llanbedrog trowch i’r dde
ar y ffordd i Aberdaron. Dilynwch y ffordd yma drwy bentref
Mynytho. Tua milltir o’r pentref , trowch i’r chwith lle gwelwch
arwydd Rhiw. Dilynwch y ffordd am rai milltiroedd nes dod i fyny
allt serth i bentref Rhiw. Byddwch yn dod i lawr yr allt wedyn i
gyfeiriad Aberdaron. Mae Tryfan ar y groesffordd gyntaf ar y
ffordd yma, tua milltir o bentref Rhiw. Mae’r enw uwchben y drws.

O gyfeiriad Caernarfon, gallwch
ddilyn y ffordd drwy Nefyn os dymunwch. Byddwch yn gadael ffordd
Pwllheli pan fyddwch bron a chyrraedd pentref Llanaelhaearn, lle
gwelwch arwydd ar y dde am Nefyn a’r Ganolfan Iaith Genedlaethol. Yn
Nefyn ewch ar ffordd Aberdaron a thrwy Morfa Nefyn, Edern a
Thudweiliog . Yn Pengroeslon ewch yn syth ar draws i gyfeiriad
Rhiw. Trowch i’r drydedd ffordd i’r dde a byddwch yn dod i ffordd
arall ar groesffordd. Mae Tryfan ar y dde ar y groesffordd yma ac
mae’r enw uwchben y drws. |