|
Saif
Tryfan rhwng pentrefi Rhiw ac Aberdaron. Mae Rhiw yn un o’r pentrefi
uchaf yn Llŷn, gyda golygfeydd gwych o Ben Llŷn, y Canolbarth a De
Cymru, Ynys Môn, Mynyddoedd Eryri, a hefyd Iwerddon ar ddiwrnod clir. 
Mae
cysylltiad agos iawn rhwng Aberdaron ac Ynys Enlli, gyda thripiau yn
mynd yno o Borth Meudwy bob dydd yn yr Haf, pan fo’r tywydd yn
ffafriol. Cewch bryd o fwyd yn y Gegin Fawr,lle byddai’r pererinion
yn aros cyn croesi i Enlli. Os ewch i ben Mynydd Mawr yn
Uwchmynydd, cewch olygfa wych o Enlli, dros y Swnt, a gweddill Llŷn.
Mae’n werth croesi’r Swnt i fwynhau tangnefedd Enlli, lle dywedir
fod ugain mil o saint wedi eu claddu.
Wrth
droed Mynydd Mawr, mae olion Eglwys Fair ac yn is i lawr yn y
creigiau mae Ffynnon Fair, lle golchai’r pererinion blinedig eu
traed cyn croesi’r Swnt peryglus mewn cyryglau bychain, a chyffwrdd
daear gysegredig Enlli.
Mae’r môr
yn rhan bwysig o fywyd pobl Llŷn ac wedi bod felly erioed. Â’r
pysgotwyr allan i godi eu cewyll gan obeithio cael helfa dda o
grancod a chimychiaid yn ogystal a mecryll a physgod eraill.
Drylliwyd
llawer o longau ym mae Porth Neigwl yn yr hen amser a dywedir fod
pobl yr ardal yn elwa o’r hyn a olchid i’r lan, ac yn ôl yr hanes yn
cymeryd modrwyau a phethau
eraill oddiar gyrff y rhai anffodus gollodd eu bywydau ac a olchwyd
i’r lan.
Mae
llawer o olion bywyd yn yr hen amser yn yr ardal, yn cynnwys hen
amddiffynfeydd, cromlechi a ffatri gwneud bwyeill o Oes y Cerrig.
Saif
eglwys hynafol Sant Hywyn uwchben y traeth yn Aberdaron ac mae yn
agored bob dydd. Bu’r bardd a chenedlaetholwr, R. S. Thomas yn ficer
yma am rai blynyddoedd, ac ar ôl ymddeol bu’n byw mewn bwthyn bach
uwchben Porth Neigwl ar dir Plas yn Rhiw. 
Diddorol
iawn yw’r wybodaeth a gawsom yn ddiweddar fod Owain Glyndwr wedi bod
yn Aberdaron, yn nhŷ Deon Bangor, yn 1405, yn arwyddo cytundeb
cyfrinachol rhyngddo ef ag Edward Mortimer a Iarll Northumberland.
Dyma’r cytundeb oedd yn nodi sut y rhennid Cymru a Lloegr rhwng y
tri pebaent yn gorchfygu a diorseddu brenin Lloegr. Aflwyddiannus
fuont yn yr ymosodiad, ond petaent wedi llwyddo, byddai hanes Cymru
a Lloegr wedi bod yn wahanol iawn.
Honna
awduron ‘Journey to Avalon’, fod yn yr ardal gysylltiadau agos â’r
Brenin Arthur, mai Ynys Enlli yw Ynys Afallon, ac mai yng Nghadlan,
rhwng Rhiw ac Aberdaron, yr ymladdwyd Brwydr
Camlan.
Dewch yma
i fwynhau heddwch a phrydferthwch y Penrhyn. Cewch glywed yr iaith
Gymraeg, cerdded llwybr yr arfordir, defnyddio’r llwybr beicio,
mwynhau pob math o chwaraeon dŵr, ymlacio ar y traethau a gwledda ar
fwydydd lleol o’r ffermydd ac o’r môr o’n cwmpas. |