|
MaeTryfan
yn dŷ cyfforddus gyda lle i barcio car oddi ar y ffordd.
Gardd
fechan gyda lein ddillad yn y cefn.
Gardd
ychydig mwy gyda dodrefn gardd o flaen y tŷ.
Ffenestri
a drysau gwydr dwbl.

Parlwr Moethus

Cegin Newydd 2009
Tair
ystafell wely- 2 gyda gwely dwbl ac un gyda gwely sengl a gwely
gwestai maint sengl llawn. Dillad gwely yn y pris.
Cot ar
gael a chadair uchel ar gyfer plant ifanc.
Ystafell
ymolchi gyda bath a chawod. Tŷ bach ar wahan. Tyweli ar gael am gost
ychwanegol os
dymunwch.
Ystafell
eistedd gyfforddus gyda theledu "Digi Box", peiriant fideo a DVD.
Ystafell
fwyta/cegin newydd gyda stof drydan, pobty meicro, rhewgell/oergell,
peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu, offer smwddio.
Mitar
£1.00 ar gyfer y trydan.
Gwres
canolog , glo a choed tân am dâl ychwanegol.
Gwresogyddion trydan.
Cysylltiad i’r we ar gael.
Mae
Tryfan ar gael i ymwelwyr gydol y flwyddyn.
Cewch
ddod i’r tŷ unrhyw amser ar ol 3.00 y p’nawn ar ddydd cyntaf y
gwyliau. Bydd raid gadael erbyn 10.00 y bore ar ddiwedd y gwyliau.
Byddwch
yn gyfrifol am ddifrodi unrhyw beth yn y tŷ a bydd raid talu am
unrhyw offer a faluriwyd cyn gadael. Rydych yn addo cadw’r offer, y
dodrefn a phopeth yn y tŷ yn lân a gadael y ty yn lân ar ddiwedd
eich gwyliau. |